DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Rhywogaethau Goresgynnol Estron, Hawliau Bridwyr Planhigion a Hadau (Diwygio ac ati) Rheoliadau (Ymadael â’r UE) 2019

DYDDIAD

04 July 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Rhywogaethau Goresgynnol Estron, Hawliau Bridwyr Planhigion a Hadau (Diwygio ac ati) Rheoliadau (Ymadael â’r UE) 2019 ("Rheoliadau 2019”).

 

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio

·         Gorchymyn y Rhywogaethau Gorsegynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.

·         Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995.

·         Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio ac ati) (Ymadael â’r UE) 2019.

·         Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

·         Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio ac ati) (Ymadael â’r UE) 2019.

·         Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE).

 

Diben y diwygiadau

Mae'r diwygiadau i'r ddeddfwriaeth (a restrir uchod) yn gwneud nifer o newidiadau technegol ac yn cyflwyno rhai darpariaethau ar bolisïau a gafodd eu cynnwys mewn OSau cynharach i ymadael â'r UE, gan sicrhau bod yr holl ddiffygion wedi'u diwygio.  Mae'n cynnwys nifer o feysydd polisi gan gynnwys:

·         Rhywogaethau Goresgynnol Estron

·         Amrywiadau planhigion

·         Marchnata hadau a deunydd planhigion

·         Rheoli clefydau anifeiliaid Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a sgil-gynhyrchion Anifeiliaid

 

Gorchymyn y Rhywogaethau Gorsegynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019

Mae Rhan 2 yn diwygio'r Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 ("Gorchymyn 2019") er mwyn cywiro camgymeriad bach yn y Gorchymyn hwnnw. 

 

Roedd camgymeriad yn erthygl 20 o Orchymyn 2019 sydd angen ei gywiro cyn i'r Gorchymyn ddod i rym sy'n gysylltiedig â'r darpariaethau sy'n pennu'r cosbau uchaf am euogfarnau troseddol am drosedd o dan Orchymyn 2019.  Mae Rheoliadau 2019 yn diwygio erthygl 20, trwy ddisodli erthygl 20(1), er mwyn mynd i'r afael â'r camgymeriadau hynny. Mae'n sicrhau mai'r ddedfryd uchaf o garchar am euogfarn ddiannod yw tri mis, yn unol ag Atodlen 2 Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, sydd ond yn cynyddu i chwe mis yng Nghymru a Lloegr pan ddaw paragraff 3 o Atodlen 27 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i rym.

 

Cafodd newidiadau eu gwneud i gywiro problemau gweithredu o fewn Rheoliad Rhif 1143/2014 (UE) drwy'r Rheoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 a osodwyd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 2018 a'u llunio ym mis Chwefror 2019. Pan gafodd Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 eu llunio yn dilyn hyn, cafodd ei ddrafftio ar y sail bod y DU yn parhau i fod yn Aelod-wladwriaeth er mwyn cyflawni rhwymedigaethau o dan Reoliad (UE) Rhif 1143/2014. Mae rhan 5 yn diwygio Gorchymyn 2019 o ran diffygion sy'n gysylltiedig â chyfeiriadau at y "rhestr o rywogaethau o bryder i'r Undeb" a "Rhestr yr Undeb" yn hytrach na'r "rhestr o rywogaethau o bryder penodol". Mae diffiniad o'r "rhestr o rywogaethau o bryder penodol" wedi ei ychwanegu hefyd. Mae cyfeiriadau at "aelod-wladwriaeth" a'r "Undeb"  yn cael eu diwygio i "Y Deyrnas Unedig". Mae cyfeiriadau at "awdurdod cymwys" yn cael eu diwygio i'r "awdurdod priodol" i sicrhau cysondeb rhwng Gorchymyn 2019 a Rheoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio ac ati) (Ymadael â’r UE) 2019.


Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

Mae Rheoliad 3 Rheoliadau 2019 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 i ddarparu y gall Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunydd planhigion o unrhyw wlad y tu allan i'r UE os ydynt yn fodlon bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy'n cyfateb â'r rhai hynny sy'n ofynnol o fewn deddfwriaeth ddomestig.  Mae Rheoliad 9(2) o Reoliadau 2019 yn diwygio darpariaeth yr awdurdodiad at ddibenion ymadael â'r UE. 

 

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Ym meysydd Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSEs) a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, bydd Rheoliadau 2019 yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 (Rhan 4) i sicrhau y bydd modd gweithredu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE wedi i'r DU ymadael â'r UE.

 

Mae'r prif newidiadau o fewn yr OS hwn, yn sicrhau bod y gyfraith a rheoliadau clefydau sy'n berthnasol i TSEau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid yn gweithredu'n gywir wedi i'r DU ymadael â'r UE drwy gynnwys diwygiadau diweddar i gyfraith yr UE oedd heb eu cynnwys mewn deddfwriaeth gynharach i ymadael â'r UE, e.e. diwygiad y llynedd i Reoliad (CE) Rhif 999/2001 Atodiad V sy'n galluogi Aelod-wladwriaethau i gymeradwyo dull gwahanol o edrych ar ddannedd er mwyn amcangyfrif a yw oen dros ddeuddeg mis oed, at ddibenion tynnu'r benglog a llinyn asgwrn y cefn.  Bydd hyn yn caniatáu i'r DU gyflwyno system yn seiliedig ar ddyddiad er mwyn amcangyfrif a yw oen dros ddeuddeg mis oed at ddibenion tynnu'r benglog a llinyn asgwrn y cefn ar gyfer rendro a'u gwaredu fel deunydd o risg penodedig.

 

Mae hefyd nifer o newidiadau technegol/gweithredol i sicrhau ein bod wedi mynd i'r afael â'r holl ddiffygion. Mae'r rhain yn cynnwys gofyniad i rag-hysbysu mewnforion rhai mathau penodol o  sgil-gynhyrchion anifeiliaid o risg uchel o'r 27 o wledydd yr UE i roi rheolaethau cyfatebol ar y gallu i olrhain llwythi i'r rhai sy'n berthnasol ar gyfer symudiadau presennol rhwng cymunedau.

 

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981")

Mae'r diwygiadau i Ddeddf 1981 (Rhan 5) yn cywiro achosion o groes-gyfeiriadu at y "rhestr o rywogaethau sydd o bryder i'r Undeb" a "Rhestr yr undeb" i sicrhau ei bod yn gyson â Rheoliad (UE) Rhif 1143/2014 (fel y'i diwygiwyd) a Gorchymyn 2019.

 

Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio ac ati.) (Ymadael â’r UE) 2019

Mae Rhan 6 Rheoliadau 2019 yn diwygio Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio ac ati) (Ymadael â’r UE) 2019 i alluogi cais i gael ei gyflwyno ar gyfer hawliau bridwyr planhigion wedi ymadael, fydd os caiff ei wneud o fewn 6 mis i ddyddiad ymadael yn elwa o ddefnyddio rheoliadau 11 i 13 y Rheoliadau hynny, ar gyfer ceisiadau sy'n cael eu gwneud wedi'r cyfnod hwnnw o 6 mis, bydd darpariaethau Deddf Amrywogaethau o Blanhigion 1997 yn berthnasol. Mae Rheoliadau 2019 hefyd yn diwygio rhai croes-gyfeiriadau a bydd yn sicrhau bod y derminoleg yn cyd-fynd â Deddf Nod Masnach 1994.

 

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Rheoliad 10 o Reoliadau 2019 sy'n diwygio  Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunydd Lluosogi Planhigion (Diwygiad etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 i ddirymu Penderfyniadau yr UE 2013/166, 2019/119 a 2019/120 sy'n cael eu cadw a fydd yn ddiangen wedi ymadael.

 

Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/BhGFl9yi

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Ag eithrio Rheoliad 3 o Reoliadau 2019 sy'n cyflwyno swyddogaeth weinyddol i Weinidogion Cymru yn ddi-rwystr, nid yw Rheoliadau 2019 yn cael effaith ar allu Gweinidogion Cymru i ymarfer eu swyddogaethau yng Nghymru a bydd hyn yn parhau yn ddi-rwystr.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw Rheoliadau 2019 yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Fel a nodir uchod, mae Rheoliadau 2019 yn gwneud nifer o newidiadau technegol ac yn cyflwyno rhai darpariaethau ar bolisïau a gafodd eu cynnwys mewn Osau ymadael â'r UE cynharach, gan sicrhau fod pob diffyg wedi ei gywiro.   

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol hefyd wedi’i osod yn y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â’r diwygiadau i Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.